Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Wales - the background

Am gig » Cymru - y cefndir

Sut mae pethau heddiw yng ‘Ngwlad y Diwygiadau’?

Mae gan Gymru draddodiadau Cristnogol cryf, gydag enw da drwy’r byd Cristnogol i gyd am gyfraniad amhrisiadwy ei phobl – boed y rheiny’n genhadon, pregethwyr neu’n gyfansoddwyr – i’r gwaith o ehangu teyrnas Duw dros y canrifoedd diwethaf. Diolch i ffyddlondeb y Cymry hyn – Cymry Cymraeg, yn aml – yn cario’r Efengyl i bedwar ban y byd, a’r hadau a blannwyd dros y blynyddoedd ganddynt, mae Cristnogaeth yn ffynnu mewn sawl gwlad tramor heddiw. Mae eglwysi drwy’r byd yn parhau i ddiolch i Dduw am eu cysylltiadau Cymreig.


Serch hynny, mae realiti’r sefyllfa heddiw yn dra gwahanol. Heddiw, 8.7% yn unig o’r boblogaeth sy’n mynychu eglwys ar unrhyw Sul. Prin iawn yw’r bobl dan hanner cant sy’n mynychu ein heglwysi – mae dwy genhedlaeth ar goll! A gwaeth fyth, does gan 92.3% o blant ddim cefndir eglwysig o gwbl.


Wrth gwrs, mae’r un peth i’w weld yn digwydd i raddau llai mewn eglwysi ledled y Deyrnas Gyfunol. Ond mae gan yr eglwysi Saesneg eu hiaith bob math o adnoddau, yn cynnwys llyfrau a chaneuon cyfoes, ac mae hynny’n helpu llawer ohonynt i dyfu – o ran maint ac yn ysbrydol! Mae’r amrywiol adnoddau hyn wedi profi’n llwyddiannus mewn sawl eglwys, yn enwedig drwy gyrraedd pobl drwy gyfryngau neu arddulliau sy’n gyfarwydd ac yn gyfforddus iddynt: yn anffodus, prin iawn yw’r adnoddau o’r fath yn y Gymraeg.


Mae nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu. Mae’n bwysig fod yr eglwys Gymraeg mewn sefyllfa i’w cyrraedd gyda’r Efengyl – yn arbennig y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol – mewn ffyrdd dealladwy a pherthnasol, neu fe’u collwn am byth. Mae angen deunyddiau, adnoddau a hyfforddiant priodol ar yr eglwys yng Nghymru i ymafael รข’r her. Mae gig yn gweld yr angen i weithio ar frys yn y maes hwn drwy helpu eglwysi lleol – yn eglwysi Cymraeg a Saesneg – i weithio ymhlith siaradwyr Cymraeg.