Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Am gig » Egwyddorion

Dydyn ni ond rhan fach o’r jig-so.

  • Mae gig wedi ei sefydlu i wasanaethu ac ysgogi gweledigaeth a gweithgarwch cenhadol. Mae ein ffocws ar gydweithio gydag eglwysi lleol. Ni fwriedir i gig fod yn fudiad ‘annibynol’ gyda’i agenda ei hun, yn galw pobl ac eglwysi i ‘ffitio i mewn gyda’n cynlluniau ni. Gwasanaethu eraill a chydweithio ag eraill yw’r geiriau allweddol.
  • Duw ei hun sy’n achub pobl ac Ef sy’n galw gweithwyr, ac nid yw’n gwneud ei waith i gyd drwy gyfrwng un corff neu fudiad. Mae gig yn awyddus i gyflawni’r hyn mae Duw am i ni ei wneud yng nghyd-destun cyd-gynllunio a chydweithio ag eraill. Rydym eisiau bod yn agored i’r cwbl mae’r Ysbryd Glân yn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd.