Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Am gig » Gobaith i Gymru

Iesu Grist ydy unig wir obaith ein cenedl.

Nid hap a damwain arweiniodd y Pwyllgor i alw’r corff yn gig (Gobaith i Gymru). Roeddem yn edrych am enw fyddai pobl ifanc yn arbennig yn gallu uniaethu gydag o – ac adlewyrchir y consyrn arbennig yma am y genhedlaeth ifanc ym mlaenoriaethau a strategaeth gig.


Mae’r teitl Cymraeg (Gobaith i Gymru) yn adlewyrchu’r ffaith fod gig wedi ei sefydlu yn benodol i gyhoeddi’r newyddion da am Iesu Grist i’r Cymry Cymraeg. Ond fe welir isod ein bod yn credu fod gan Gristnogion ac eglwysi di-Gymraeg gyfraniad pwysig i’w wneud i’r genhadaeth ymhlith y Cymry Cymraeg.


Mae’r gair Gobaith yn crynhoi ein hargyhoeddiad dwfn mai Iesu Grist ydy gwir obaith ein cenedl. Anobaith sy’n nodweddu’r eglwysi Cymraeg ers degawdau.


Mae’r dirywiad yn y niferoedd sy’n mynychu addoliad, y nifer cynyddol o gapeli ac eglwysi sy’n cau, a’r ffaith fod cyfartaledd oedran mynychwyr yn uchel iawn yn hybu ysbryd amddiffynol a mewnblyg yn aml. Pwysleisiwn fod eithriadau pwysig, a diolchwn i Dduw amdanynt. Ein gobaith yw y bydd gig yn gallu bod o wasanaeth ac annogaeth i’r eithriadau hyn, ac y gallwn danio dychymyg a gweledigaeth eraill.


Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddarparu adnoddau. Credwn fod angen adnoddau cyfoes a deniadol i allugoi’r eglwysi i gyflawni eu cenhadaeth yn fwy effeithiol. Ein prif adnodd yw Gair Duw, a dyna pam mae gig wedi rhoi blaenoriaeth amlwg i’r gwaith o ddiwygio’r Beibl Cymraeg Newydd, a hefyd i baratoi’r Aralleiriad o’r Testament Newydd. Ond mae angen adnoddau eraill hefyd – megis emynau cyfoes, ac mae gig yn credu fod rhaid i’r eglwysi Cymraeg fynd i’r afael a’r angen i newid os ydynt yn mynd i genhadu’n effeithiol a bod yn eglwysi ffyddlon a pherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain.