Am gig » Hanes gig
Mae gig yn ymateb i argyfwng ysbrydol y Gymru Gymraeg.
Sefydlwyd gig yn Hydref 1999, ac apwyntiwyd Arfon Jones yn Swyddog Maes. (Cyn dod i weithio i gig, Arfon oedd Ysgrifennydd Cyffredinnol y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru)
Mae gig yn ymateb i’r argyfwng ysbrydol a’r dirywiad a welwyd yn yr eglwysi yn arbennig yn ystod ail hanner yr Ugeinfed Ganrif. Mae’r ystadegau diweddaraf wedi eu crynhoi yn adroddiad Arolwg Eglwysi Cymru 1995, Yr Her i Newid gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Beibl.
Gwelwyd fod adnoddau dibendraw ar gael at ddefnydd yr eglwysi di-Gymraeg, ond mai prin iawn yw’r adnoddau at wasanaeth yr eglwysi Cymraeg.
Mae neges gig wedi ei grynhoi yn nheitl yr elusen – Gobaith i Gymru. Credwn fod gobaith, a chredwn mai Iesu Grist ei hun yw’r gobaith yna.
Pwrpas gig yw hybu lledaeniad yr efengyl ymhlith y Cymry Gymraeg. Fodd bynnag, nid mudiad i wneud y gwaith o efengylu ar ran yr eglwysi yw gig, ond llawforwyn i wasanaethu a chefnogi eglwysi lleol yn eu hymdrechion hwy i rannu’r newyddion da yn eu cymunedau.