Am gig » Pam sefydlu gig?
Ni fu erioed cymaint o angen ysbrydol yng Nghymru.
Dyma rai ystadegau:
- 8.7% yn unig o’r boblogaeth sy’n mynychu eglwys ar unrhyw Sul
- Llai na 1.5% o bobl Cymru yn Gristnogion efengylaidd, a chyfran fechan iawn ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.
- Does gan 92.3% o blant ddim cefndir eglwysig o gwbl
- Mae tua 20% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg – ac mae cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol.
Mae ymddiriedolwyr gig yn gweld yr angen i weithio ar frys i herio’r sefyllfa hon drwy helpu eglwysi lleol – yn eglwysi Cymraeg a Saesneg – i genhadu ymhlith siaradwyr Cymraeg.