Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Am gig » Sail Ffydd

Mae gig yn aelod o’r Cynghrair Efengylaidd, ac yn rhannu ei Sail Ffydd.

Mae Cristnogion Efengylaidd yn derbyn y datguddiad o’r Duw sy’n dri yn un ac un yn dri fel y’i rhoddwyd yn Ysgrythurau’r Hen Destament a’r Newydd, ac maent yn cyffesu ffydd hanesyddol yr Efengyl a gyflwynir ynddynt. Maent yma’n datgan yr athrawiaethau a ystyriant yn hanfodol i ddealltwriaeth o’r ffydd ac a ddylai esgor ar gariad tuag at ei gilydd, gwasanaeth Cristnogol ymarferol a gofal efengylaidd.

  • Penarglwyddiaeth a gras Duw y Tad, Duw y Mab a Duw yr Ysbryd Glân yn y creu, rhagluniaeth, datguddiad, prynedigaeth a’r farn derfynol.
  • Ysbrydoliaeth ddwyfol yr Ysgrythur Lân, ac o ganlyniad ei bod yn gwbl ddibynadwy ac yn awdurdod goruchaf yn holl faterion ffydd ac ymddygiad.
  • Pechadurusrwydd ac euogrwydd cyffredinol dynoliaeth syrthiedig, gan ei gwneud yn wrthrych digofaint a chondemniad Duw.
  • Aberth ddirprwyol mab ymgnawdoledig Duw fel y cyflawn ac unig sail i brynedigaeth oddi wrth euogrwydd a grym pechod, a’i ganlyniadau tragwyddol.
  • Cyfiawnhad pechadur trwy ras Duw yn unig, trwy ffydd yng Nghrist a groeshoeliwyd ac a atgyfodwyd o’r meirw.
  • Gwaith Duw’r Ysbryd Glân yn goleuo, aileni, mewn-drigo a sancteiddio.
  • Offeiriadaeth yr holl gredinwyr, sy’n ffurfio’r Eglwys fyd-eang, Corff Crist, ac yntau’n Ben iddi, ac sydd wedi ymrwymo trwy ei orchymyn Ef i gyhoeddi yr Efengyl drwy’r holl fyd.
  • Disgwyl ail-ddyfodiad personol a gweledig yr Arglwydd Iesu Grist mewn nerth a gogoniant.