Swyddi Christnogol...
Mae llawer o bobl ifanc yn ystyried tybed ydy Duw yn eu galw nhw i roi amser hebio i’w wasanaethu e, ond ddim yn siwr sut i wneud hynny. Ar yr un pryd mae yna eglwysi sydd angen eu tanio â gweledigaeth newydd i alluogi pobl ifanc i wasanaethu mewn amrywiol ffyrdd e.e. mewn timau efengylu etc…
Wyt ti wedi ystyried cymryd blwyddyn i ffwrdd i wasanaethu Iesu a thyfu fel disgybl?
- Coleg y Bala - 13/03/08
-
Mae Coleg y Bala yn chwilio am rhywun sydd a diddordeb i weithio gyda pobl ifanc am flwyddyn. Os oes gyda chi ddiddordeb cymrwch gip olwg ar yr hysbyseb am wybodaeth pellach.
- Y Gorlan - 16/10/07
-
Cychwynnodd y Gorlan fel cenhadaeth i Gymry Cymraeg ifanc ar faes pebyll yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984, o dan arweiniad grwp ad hoc o Gristnogion ifanc. Tyfodd y gwaith yn aruthrol hyd at y nawdegau cynnar ac yna bu toriad o dair mlynedd oherwydd prinder gweithwyr ac arweinwyr. Ail-lansiwyd y Gorlan yn 1997 gyda tho newydd o arweinwyr a gweithwyr, a hynny o dan adain Fforwm Ieuenctid y Cynghrair Efengylaidd.
Bellach mae tim da o weithwyr ifanc yn rhedeg y Gorlan. Mae dycnwch ac ymroddiad tim y Gorlan dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn dystiolaeth glodwiw i’r efengyl.
Yn ifanc ac yn barod am her?
Ffansi gweithio yn nhim y Gorlan? Edrych am waith caled…sy’n hwyl ar yr un pryd? Edrych am rywbeth i’w wneud yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol? Wyt ti wedi aros ar Faes B erioed? Dyma gyfle i ti wasanaethu Iesu Grist! Cyfle i ddysgu coginio byrgyrs!…Cyfle i wneud galwyni o de a choffi!… a chyfle i rannu dy ffydd… Oes gennyt ti’r egni angenrheidiol?
- Newyddion Da i'r Dyffryn: - 16/10/07
-
Er gwaethaf diwygiad arwyddocaol ym 1904, gwelodd Gymru erydu cyson mewn mynychu capel ac eglwys dros y blynyddoedd diwethaf, nes cyrraedd sefyllfa cynddrwg yr ystyrir bellach yn faes cenhadol.
Mae yng Nghymru erbyn hyn genhadon o Frasil, Corea, Yr Unol Daleithiau a’r India – felly be di’r Newyddion Da? Gwelwyd llygedyn o obaith yn Nyffryn Clwyd yn ystod y blynyddoedd diweddara gyda sefydlu nifer o eglwysi newydd, sy’n gwrthdroi’r dirywiad cyffredinol.
Ymysg y rhain mae Cymdeithas Gristnogol Fron Park, Treffynnon, Cymdeithas Gristnogol Grapevine yn y Rhyl, Cymdeithas Gristnogol Llanelwy – pob un wedi ymgodi o Eglwys y Bedyddwyr, Stryd Sussex yn Y Rhyl. Bellach, mae eglwys newydd yn cychwyn ar ben arall y Dyffryn yn Rhuthun.
Mae enwadau eraill hefyd wedi rhoi cychwyn ar ffurfio cynulleidfaoedd newydd ac mae perthynas gweithgar cryf rhwng y rhain ac eglwysi eraill, sydd wedi esgor ar weledigaeth newydd – Gweinidogaeth y Dyffryn. Strategaeth yw hon i alluogi tyfiant Cristnogol o bwys i ddatblygu oddi fewn i’r cymunedau llai ar hyd a lled y Dyffryn trwy gymorth cenhadwr sydd â’i nod o fod yn gymorth i sefydlu a threfnu eglwysi newydd.
Sut y daw hyn i fod? Datblygwyd partneriaeth rhwng Undebau’r Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru a’r Croesgadwyr, i godi grwpiau bychain o bobl ifanc ym mhentrefi’r Dyffryn a’u cysylltu â’r rhwydwaith ehangach o ieuenctid yn y Dyffryn trwy gyfrwng achlysur rheolaidd o’r enw Valley Praise – Mawl y Dyffryn.
Bydd y rhan fwyaf o hyn, er nad popeth, trwy gyfrwng y Gymraeg (y sialens fwyaf sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd yw cyrraedd at yr ieuenctid i Grist yn ein heglwysi/capeli Cymraeg). Fel hyn, wrth i grwpiau gynyddu a thyfu, y gobaith yw sefydlu eglwysi ieuenctid fydd yn medru creu dolen gyswllt â’r cynulleidfaoedd Cymraeg hyn.
Lle bynnag y bu ac y mae symudiad gref o’r Ysbryd, yn oedran 14-25 yw’r rhai cyntaf i ymateb, felly teimlwn fod hyn yn fuddsoddiad da o adnoddau.
Felly, bwriedir lansio’r weinidogaeth hon am mis Medi 2004. Bydd y cyllid yn dibynnu ar gefnogaeth yr eglwysi/capeli ynghyd ag unigolion sy’n rhannu’r weledigaeth.
Mae nifer o eglwysi eisioes wedi addo cefnogaeth ariannol ac mae Cenhadaeth Cartref Undeb Bedyddwyr yr ynysoedd hyn hefyd wedi addo hanner y cyflog. Po fwyaf o gyfalaf fydd ar gael ar gyfer y fenter gyffrous hon, po fwyaf y gellid ei gyflawni i atal y dirywiad a gweld y llanw’n troi i wireddu twf go iawn a pharhaol yn y capeli yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae i hyn effaith pell gyrhaeddol hefyd, gan y gellid defnyddio’r model hon i’w phlannu mewn cymunedau gwledig eraill ar hyd ac ar led – ond rhaid cychwyn yn rhywle a Dyffryn Clwyd yw’r man hwnnw.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag unai Dave Cave, Pete Cousins neu Andy Hughes trwy ffonio 01745 342268 neu anfon e-bost atynt dan ofal sussexstreet@hotmail.com.
Mae taflenni i’w cael (yn Gymraeg neu Saesneg) a gellir trefnu siaradwr ar gyfer grwpiau sydd â diddordeb er mwyn egluro ymhellach.