Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

This page in English

Gwasanaethu a chydweithio

Ein bwriad yn syml yw gwasanaethu achos Iesu Grist yn y Gymru Gymraeg. Rydym yn awyddus i fod yn offeryn yn llaw Duw i gydweithio ag eglwysi lleol, i rannu gweledigaeth ac i sianelu adnoddau newydd tuag at waith brys. Gwasanaethu a chydweithio yw’r geiriau allweddol. Mae gweddio yn gwbl hanfodol os ydym i lwyddo i wneud ewyllys Duw: byddwn yn annog Cristnogion yn gyson i gefnogi ein gwaith drwy weddio drosom.


Edrychwn ymlaen at weithio gydag eglwysi lleol ac annog cydweithio rhyngddynt ar ymgyrchoedd efengylu ymhlith Cymry Cymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc. Mae gig yn awyddus i gefnogi prosiectau lleol, yn enwedig ymysg ysgolion Cymraeg, gan ysgogi’r nifer fawr o Gymry Cymraeg sy’n addoli mewn eglwysi Saesneg i estyn allan i gyrraedd eu cyd-Gymry. Rydym hefyd am annog pobl ifanc sy’n siarad y Gymraeg i ymuno â thimau efengylu.


Ac yn unol a’n hymroddiad i ddarparu adnoddau Cristnogol newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg, roedd gig yn rhan o’r Cydbwyllgor Mudiadau Efengylaidd a oedd yn gweithio ar sicrhau fersiwn diwygiedig o’r Beibl Cymraeg Newydd (BCN), mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Beibl a Chydbwyllgor y BCN.


Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwefan beibl.net, sef aralleiriad poblogaidd o’r Testament Newydd: mae wedi ei anelu’n benodol at bobl ifanc, ysgolion, ac oedolion sy’n dysgu’r iaith. Mae’r gwaith o gyfieithu’r Hen Destament yn parhau.