Gwybodaeth Bellach
Ar hyn o bryd mae gan gig ddau aelod o staff sef Arfon Jones (Swyddog Maes) a Gwenda Jenkins (Swyddog Adnoddau). Mae Arfon, Swyddog maes gig, yn efengylwr profiadol, yn weithiwr ieuenctid, ac yn bregethwr, sydd wedi gweithio ar y BCN diwygiedig ers rhai blynyddoedd. Bydd hyfforddi Cymry Cymraeg ar gyfer gwaith efengylu yn rhan bwysig o’i waith. Cyn ymuno â gig, Arfon oedd ysgrifennydd y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru. Pe hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech i gynrychiolydd ymweld â’ch eglwys i siarad am gig, croeso i chi gysylltu ag Arfon Jones (Swyddog maes), Owain Roberts (Cadeirydd) neu Ceri Darcy (Ysgrifennydd) drwy’r cyfeiriad isod.
Nid dim ond mudiad ar gyfer pobl sy’n siarad Cymraeg yw gig! Dylai’r gwaith sydd o’n blaenau fod yn eiddo i’r eglwys gyfan, beth bynnag yw’r iaith a addolir ynddi. Byddem yn gwerthfawrogi eich gweddiau. Gweddiwch yn arbennig y bydd ewyllys Duw yn cael ei wneud yn y maes hwn, ac y bydd yr adnoddau sydd eu hangen yn cael eu darparu. Os hoffech gyfrannu’n ariannol i gig, cysylltwch â’r trysorydd drwy’r cyfeiriad isod.
Cysylltiadau:
Arfon Jones:
Ysgrifennu:
Gobaith i Gymru, 15 Violet Place, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1HT
Tel: 029 2062 3513
E-bost: trefnydd@gobaith.org
Owain Roberts (Cadeirydd gig):
Ysgrifennu: Owain Roberts (Cadeirydd gig), d/o 15 Violet Place, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1HT
E-bost: cadeirydd@gobaith.org
Ceri Darcy (Ysgrifennydd gig):
Ysgrifennu: Ceri Darcy (Ysgrifennydd gig), 27 Heol Las, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EB
E-bost: ysgrifennydd@gobaith.org
Simon Jeffs (Trysorydd gig):
Ysgrifennu: Simon Jeffs (Trysorydd gig), 57 Parc yr Hafod, Yr Wyddgrug, Sir yr Fflint, CH7 1QW
E-bost: trysorydd@gobaith.org