Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Beth sy'n newydd » Cwisiau Rhyngweithiol newydd ar Beibl.net

Erbyn hyn mae ‘na hanner cant o gwisiau PowerPoint lliwgar newydd i blant ar wefan beibl.net.

Mae’r cwisiau yn lliwgar a rhyngweithiol – rhai yn haws na’i gilydd. Mae rhai cwestiynau’n hollol syml, ‘Pwy oedd mam Iesu Grist?’ tra bod cwestiynau eraill yn cynnig mwy o her, ‘Beth oedd enw mam Moses ac Aaron?’.
Mae ‘na gwisiau am bobl yn y Testament Newydd a phobl yn yr Hen Destament, yn ogystal â chwisiau am lefydd, mynyddoedd a gwaith yn y Beibl.
Mae’n bosib lawr-lwytho’r cwisiau a’u cysylltu â thaflunydd er mwyn chwarae’r gemau gyda criw o blant mewn clwb neu Ysgol Sul. Mae’n bosib hefyd i blentyn eistedd o flaen y cyfrifiadur a phrofi ei hun yn y tŷ!

I weld yr adnoddau newydd ewch i www.beibl.net adnoddau > eglwysi > gemau.