Menter Ysgolion Cymraeg (Welsh Schools Initiative)
Beth sy'n newydd » Menter Ysgolion Cymraeg
Mae Menter Ysgolion Cymraeg, sy’n rhannu’r newyddion da am Iesu Grist drwy ddulliau cyfoes ac effeithiol, erbyn hyn yn elusen gofrestredig.
Erbyn hyn, bu’r Fenter mewn bodolaeth ers tair blynedd a hanner, ac rydym yn ddiolchgar i Dduw am bob cymorth a chefnogaeth. Daeth llawer o’r cymorth a’r arweiniad drwy gyfrwng Gobaith i Gymru. Felly dyma ddal ar y cyfle i ddiolch am y gefnogaeth ac am y cydweithio hapus a fu rhyngom ac a fydd, fe hyderwn, yn parhau i’r dyfodol. Mae statws elusen gofrestredig yn hwb i’r Fenter ac yn gymorth i sicrhau bod y gwaith yn datblygu’n effeithiol.
Bellach mae Menter Ysgolion Cymraeg yn gweithio mewn nifer cynyddol o ysgolion yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, gan gynnwys y Barri, Pontypridd a’r Cymoedd. Ein gweddi a’n gobaith yw y bydd rhagor o weithwyr yn cael eu galw i ymuno yn y gwaith.
Os hoffech gyfrannu at waith y Fenter neu os hoffech dderbyn mwy o fanylion, cysylltwch ag:
Angharad Ellis, Menter Ysgolion Cymraeg, 16 Penylan Place, Y Rhath, Caerdydd, CF23 5HE
Gwen Emyr
Rhif elusen gofrestredig: 1121112