Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

Beth sy'n newydd » Taith Dewi Sant (18 Medi – 10 Hydref 2010)

Darllenwch lythyr Y Parch Wyn Morris sy’n sôn am y digwyddiad cyffrous fydd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro a Ceredigion yn ystod yr Hydref.

Annwyl Gyfaill

Fel y gwyddoch efallai, yn ddiweddarach eleni, bydd “Taith Dewi Sant” yn rhoi cyfle arbennig i gymryd rhan mewn cenhadaeth gyffrous yn y De-orllewin pan welir eglwysi ar draws Ceredigion, Penfro a gorllewin Caerfyrddin yn “mestyn mas” i drefnu digwyddiadau cenhadol. Cydlynwyr y Daith yw’r mudiad Through Faith Missions, mudiad a fu’n trefnu a chydlynu sawl menter genhadol fawr yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y Daith ar hyd Clawdd Offa yn 1996.

Ymunwch â ni! Bydd angen o leiaf 500 o wirfoddolwyr arnom i weithredu fel aelodau o dimau yn y gwahanol drefi a phentrefi ar hyd a lled y De-orllewin, o Dalacharn yn y de hyd at Aberystwyth yn y gogledd. I gannoedd o bobl, mae’r teithiau hyn wedi bod yn brofiad cyfoethog, boddhaus a chalonogol yn y gorffennol, ac yn garreg filltir bwysig yn eu pererindod ysbrydol. Bu’r profiad hefyd yn gyfrwng i ambell un newid cyfeiriad ei fywyd yn sylweddol.

Delwedd gyfeillgar fydd gan gerddwyr y timau a bydd eu dull o genhadu’n hynaws, ac eto’n feiddgar, ond heb fod yn ymosodol. Byddant yn mynd i dafarndai, ysgolion, colegau, gweithdai a chartrefi, ac yn cynnal Arolwg Credoau Personol wrth fynd o ddrws i ddrws. Y bwriad yw sôn am Iesu a cheisio dwyn Teyrnas Dduw at y tyrfaoedd, er mwyn iddynt dderbyn maddeuant, cymod a thangnefedd. Pan anfonodd Iesu’r Deuddeg a Thrigain allan i genhadu cawsant gyfarwyddyd ganddo i iacháu’r cleifion (Luc 10). Bydd y cenhadon yn dilyn y cyfarwyddyd hwn ac yn cynnig gweddïo dros y cleifion wrth iddynt gyhoeddi’r Newyddion Da. Bydd estyn allan at bobl ifainc yn rhan bwysig o’r Genhadaeth a gobeithir denu llawer ohonynt i gymryd rhan mewn amrywiol fentrau.

Fel un a gymerodd ran o’r blaen mewn tair Taith wahanol a gydlynwyd gan Through Faith Missions, anogaf chi i ddod. Mae’n gyfle rhagorol. Bydd y gymdeithas a gewch yng nghwmni aelodau eraill y gwahanol dimau, yn ogystal â phobl yr eglwysi lleol y byddwch yn cydweithio â hwy, yn benigamp. Yr eglwysi lleol fydd yn darparu bwyd a llety ar eich cyfer ac ar lawr neuaddau y byddwch yn cysgu, er y caiff rhai o aelodau’r timau cymysg eu rhyw, am resymau ymarferol, gysgu yng nghartrefi aelodau’r eglwysi. Ni chewch ddod â ffonau symudol na chardiau credyd ar gyfer y Daith, a dim ond £3 y diwrnod a ganiateir i chi ei wario ar gyfer efengylu yn y tafarndai.

Wnewch chi ymuno â ni i ledaenu’r Efengyl? Bydd angen i chi gael cefnogaeth gweinidog, neu arweinydd(ion) eich eglwys, ynghyd â gwiriad CRB. Bydd angen i chi hefyd fod dros 18 mlwydd oed. Gallwch ymrwymo eich hun i un wythnos yn unig. Mae angen siaradwyr Cymraeg arnom, yn enwedig yn ystod pythefnos olaf y Daith, pan fydd y Genhadaeth yn cyrraedd gogledd sir Benfro a Cheredigion. Oni fyddai’n wych o beth pe gellid sefydlu timau o genhadon Cymraeg eu hiaith? Beth am wahodd cyfaill neu gyd-weithiwr i ddod ar y Daith? Pe bai digon o Gymry Cymraeg yn dangos diddordeb, mae Through Faith Missions yn barod i gynnal cwrs hyfforddi arbennig yn Aberystwyth yn ystod yr haf eleni. Felly, cysyllwch â mi. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.

Gallwch dderbyn mwy o fanylion am y Daith trwy gysylltu yn uniongyrchol â Through Faith Missions, 73 Stryd Fawr, Coton, Caergrawnt CB23 7PL. (Rhif Ffôn: 01954 210239). Ewch i’w safle ar y we www.through-faith-missions.org a chliciwch ar www.walksaintdavid.co.uk. Mae’r holl wybodaeth ar gael yn Gymraeg os cliciwch ar faner y Ddraig Goch yng nghornel uchaf y sgrîn.

Wnewch chi ymuno â ni? Mae croeso cynnes yn eich disgwyl.

Y Parchedig Wyn Morris
(aelod o’r Gweithlu lleol)