Gobaith i Gymru - Hope for Wales

Y gwasanaethu Duw gobaith ac yn ymddiried ynddo (Rhufeniaid 5:13).

Beibl.net. Galwch heibio beibl.net - Y testament newydd mewn iaith gyfoes, ar y we gyda chymorth astudio. Ewch!

This page in English

Pwy ydy Pwy?

Arfon Jones (Swyddog Maes gig)

Cafodd Arfon ei benodi yn Swyddog Maes gig pan sefydlwyd yr elusen yn 1999. Cyn hynny, Arfon oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru. Arfon sydd wedi ysgrifennu’r cyfieithiad llafar o’r Testament Newydd, beibl.net, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n paratoi fersiwn tebyg o lyfrau’r Hen Destament. Mae’n efengylwr profiadol, yn weithiwr ieuenctid, ac yn bregethwr. Mae hefyd wedi cyfieithu llawer iawn o ganeuon addoliad cyfoes i’r Gymraeg. Mae Arfon yn briod i Rachel, ac mae ganddo dri o blant – Carys Mair, Seren Ann a Ryan Dafydd.

Arfon Jones
Aron Treharne (Aelod o'r pwyllgor)

Dwi’n dod yn wreiddiol o Benygroes, Caernarfon, ond yn byw yng Nghaerfyrddin nawr, yn weinidog o dan hyfforddiant gyda Eglwys y Bedyddwyr, Penuel, ac wrthi’n gwneud gradd mewn diwinyddiaeth ar yr un pryd, gyda cwrs DAWN. Rwyf yn awyddus iawn i weld gwasanaeth Gristnogol yn cael ei roi, ac yn cael ei ddatblygu yn yr iaith Gymraeg, gan mai hynny yw fy maich. Y peth pwysica’ i mi yw cael cyflwyno’r Efengyl a’r Gair i’m ffrindiau, a gwybod eu bod yn gallu deall y cwbl, a hynny am ei fod yn gyfoes, ac yn yr iaith Gymraeg.

Bethan Davies (Aelod o'r Pwyllgor)

Dwi’n dod o Llangefni yn wreiddiol, ond rwan dwi’n byw gyda fy ngwr yng Nghaerdydd. Ar y foment rwy’n dilyn cwrs i fod yn Seicolegydd Addysg. Ar ôl gadael y coleg fe es yn ôl i Ynys Mon i weithio gydag eglwysi a sefydliadau lleol yn gwneud gwaith ieuenctid a phlant. Yn ystod y cyfnod hwn dyfnhaodd fy maich dros bobl ifanc a phlant Cymru. Fy ngobaith i yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn gallu clywed yr efengyl yn glir ac yn gywir. Credaf fod gig yn gwneud gwaith pwysig iawn yng Nghymru wrth wneud yr efengyl mor glir a hawdd i’w deall a phosib i blant a phobl ifanc.

Bethan Davies
Ceri Darcy (Ysgrifennydd gig)

Rwy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ond rwyf bellach yn byw yn Rhydaman ac yn gweithio fel cyfieithydd i’r cyngor sir lleol. Rwy’n briod a Rhodri ac rydym yn rhan o Eglwys Efengylaidd Rhydaman. Ysgrifennydd gig ydw i ers 2004 ac felly fi sy’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a rhoi gwybodaeth am gig i aelodau’r pwyllgor a phobl eraill. Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu cefnogi gig mewn ffordd ymarferol ac mae’n wych bod yn rhan o elusen sy’n ceisio helpu’r Cymry i ddod i adnabod Duw drwy eu hiaith eu hunain.

Ceri Darcy
Dewi Arwel Hughes (Ymddiriedolwr)

Gogleddwr o’r Bala sy wedi byw ym Mhontypridd yn y De ers dros 30 mlynedd. Wedi bod yn athro coleg ac yn Gydlynydd cyntaf Tearfund yng Nghymru. Ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Diwinyddol Tearfund. Yn gweithio gyda gig oblegid ei hiraeth am weld y Gymru Gymraeg yn troi at Grist unwaith eto, ac oblegid ei fod yn ffrindie hefo Arfon Jones ac yn rhannu ei weledigaeth ers oesoedd!

Dewi Arwel Hughes
Mary Nicholas (Ymddiriedolwr)

Rwyf yn wraig i Philip, mam i bedwar (merch a thri mab), ac yn famgu i bump; yn ddarlithydd yng ngholeg Pen-y-Bont ar Ogwr; wedi bod yn Gristion ers yn 16 oed. Bum yn athrawes Ysgol Sul am flynyddoedd ac yn ddiweddar bum yn yr Affrig (Uganda) gyda’r eglwys – sef Danescourt Christian Fellowship lle mae Philip yn ddiacon ac yn drysorydd. Yn briod ers 39 o flynyddoedd ac yn dal i brofi daioni a thrugaredd Duw yn feunyddiol. ‘Rwy’n gweld gig yn bwysig iawn i Gymru a’r genhadaeth bresennol.

Mary Nicholas
Owain Roberts (Ymddiriedolwr / Cadeirydd gig)

Rwy’n wreiddiol o Ben Llyn ond erbyn hyn yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe ymunais a gig yn mis Mai 2001. Roeddwn i’n awyddus iawn i fod yn rhan o fudiad sy’n hybu efengylu ymlith Cymry Cymraeg o bob oed. O ystyried y sefyllfa bresennol, rydw i’n credu ei bod hi’n hanfodol fod ganddon ni, Gristnogion Cymraeg, yr adnoddau a’r gefnogaeth i’n galluogi i dystiolaethu’n effeithiol i’n cyd-Gymry. Fel mae’r enw gig yn dweud, Iesu Grist ydy’r unig wir obaith i’n cenedl.

Owain Roberts

Sara Redwood (Ymddiriedolwr)

F’enw i ydy Sara a dw i’n weithiwr ieuenctid mewn eglwys ym Mhenarth, yn ymyl Caerdydd. Cyn hynny ro’n i’n gweithio i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Dw i wedi ymuno a gig achos dwi’n credu bod Duw wedi rhoi’r gallu i mi siarad Cymraeg er mwyn ei wasanaethu, a dw i’n credu bod gig yn ffordd wych i gefnogi Cristnogion Cymraeg sy efallai yn teimlo mai nhw ydy’r unig Gristnogion Cymraeg yn y byd! Mae gig yn dangos drwy gyfrwng y Gymraeg pa mor wych a chyffrous ydy Duw!

Sara Redwood
Siôn Meredith (Ymddiriedolwr)

Un o raddedigion Bangor, ond yn byw ger Aberystwyth ers 1987. Yn briod a Janet, a dau o blant, Hanna a Huw. Aelod o Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth ac yn un o swyddogion gig o’r cychwyn oherwydd fy awydd i wneud rhywbeth ymarferol, yn nerth Duw, i ddod a gobaith i Gymry Cymraeg.

Rwyf bellach yn gweithio i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyn hynny bum yn gweithio i Tearfund ac i CYD.

Sion Meredith
Simon Jeffs (Trysorydd gig)

Cefais fy magu yn Swydd Gaerwrangon, astudiais Ffiseg yn Llundain ac yn Aberystwyth ble cwrddais a’m gwraig a dechrau dysgu Cymraeg. Rydyn ni wedi addoli mewn eglwysi Bedyddwyr a Methodistaidd, ac yn 2002 roedden ni fel teulu yn teimlo arweiniad i adael eglwys efengylaidd Saesneg i ymuno ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Rydyn ni’n disgwyl i Ysbryd Duw symud yn rymus yng Nghymru eto, ac yn gweld gig fel un o’r sanelau y gallai eu defnyddio os ydyn ni’n fodlon.

Simon Jeffs
Watcyn James (Aelod o'r Pwyllgor)

Am ugain mlynedd bum yn weinidog yng nghylch Crosshands a Thycroes,Rhydaman. Ers mis Hydref 2003 rwy’n gweithio gyda Chymdeithas y Beibl i hyrwyddo cenhadaeth eglwys Iesu Grist yng Nghymru. Rwy’n credu’n gryf bod gan Iesu Grist waith i’w gyflawni yng Nghymru eto ac yr wyf yn gwbl argyhoeddedig bod gan gig gyfraniad i’r dyfodol gobeithiol hwnnw.

Watcyn James